AC(4)2011(6) Papur 2

Dyddiad: 24 Tachwedd 2011
Amser:
09:30–11:30
Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd  
Enw’r awdur a’i rhif ffôn:
Non Gwilym, estyniad 8647

Gwasanaethau dwyieithog

1.0    Diben a chrynodeb

1.1     Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf 2011 cytunodd y Comisiwn i ymgynghori ar Fil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a Chynllun Gwasanaethau Dwyieithog (y Cynllun) a darparu, fel rhan o’r Cynllun, Gofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn yn gwbl ddwyieithog o fewn pum diwrnod gwaith, ar yr amod y gellir gwneud hynny mewn ffordd gynaliadwy ac am gost resymol yn yr hirdymor.

1.2     Mae’r papur hwn yn gofyn am benderfyniadau gan y Comisiwn ynghylch sut i symud ymlaen, a hynny ar sail:

·    y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliadau i ddulliau ymarferol o ddarparu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog;

·    y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad cyhoeddus (yn ogystal â thrafodaethau â staff) a’r prif themâu a ddaeth i’r amlwg o’r ymgynghoriad; a’r

·    newidiadau a awgrymir i’r Bil a’r Cynllun yn sgil yr ymatebion hynny.

2.0    Argymhellion

2.1     Gwahoddir y Comisiwn i:

a.       gytuno i ddarparu Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn yn gwbl ddwyieithog fel y cynigir ym mharagraffau 3.4 i 3.6;

b.     nodi’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil drafft a’r Cynllun arfaethedig fel y nodir yn Atodiad B;

c.      ystyried a chymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Bil sy’n deillio o’r ymatebion, fel y trafodir ym mharagraff 5.1;

ch. ystyried a chymeradwyo unrhyw newidiadau i’r Cynllun arfaethedig sy’n deillio o’r ymatebion, fel y trafodir ym mharagraff 5.3;

d.     cytuno bod y Bil, a fydd yn ymgorffori unrhyw newidiadau a gymeradwywyd o dan bwynt c. uchod (ynghyd â’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef) yn cael ei gyflwyno i’r Cynulliad cyn gynted â phosibl;

dd. cytuno bod y Cynllun arfaethedig, a fydd yn ymgorffori unrhyw newidiadau a gymeradwywyd o dan bwynt ch. uchod, yn cael ei osod gerbron y Cynulliad cyn gynted â phosibl (gyda’r bwriad y bydd y gwaith craffu arno’n digwydd ochr yn ochr â’r dasg o ystyried y Bil);

e.   awdurdodi Rhodri Glyn Thomas AC:

i.   i fod yr aelod sy’n gyfrifol am y Bil Ieithoedd Swyddogol (Cymru), yn unol â Rheol Sefydlog 24.12;

ii.  i gymeradwyo, yn unol ag unrhyw newidiadau a gymeradwywyd o dan bwynt c. ac ch. uchod, fersiynau terfynol y Bil, y Memorandwm Esboniadol a’r Cynllun (yn amodol ar gytundeb Angela Burns AC, mewn cysylltiad â darpariaethau ariannol y Memorandwm Esboniadol).

3.0    Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn cwbl ddwyieithog.

3.1     Yn ei gyfarfod ar 14 Gorffennaf cytunodd y Comisiwn, mewn egwyddor, i adfer Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog cyn belled â bod y trefniant yn gynaliadwy yn yr hirdymor ac yn arddangos gwerth da am arian.

3.2     Bydd y Comisiynwyr am nodi, o’r 59 o ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad ar wasanaethau dwyieithog, bod 43 o blaid adfer Cofnod cwbl ddwyieithog fel darpariaeth  i’w chynnwys yn y Bil, a bod y Cynulliad hefyd wedi cael deiseb erbyn hyn sy’n galw ar y Cynulliad i adfer Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog ac arno 1,334 o lofnodion.

3.3     Yn ystod y cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref, bu swyddogion y Cynulliad, gyda’r bwriad o roi penderfyniad y Comisiwn ar waith, yn:

·    ymgynghori â Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar y datblygiadau technolegol diweddaraf i gynorthwyo gwasanaethau cyfieithu. Yn sgil yr ymgynghoriad, comisiynodd Bwrdd yr iaith Gymraeg ymchwil newydd, annibynnol ar gyfieithu peirianyddol a’r iaith Gymraeg, a gaiff ei gwblhau erbyn canol mis Rhagfyr.  Hefyd bu swyddogion mewn seminar gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar Dechnoleg a Chyfieithu ym mis Hydref, ac maent wedi ystyried nodyn cyngor y Bwrdd, sef Yr Iaith Gymraeg, Technoleg a Chyfieithu.

·    caffael system cof cyfieithu .  Yn ogystal â hwyluso gwaith cyfieithu’n gyffredinol, gellir defnyddio system cof cyfieithu WordFastPro hefyd i ategu mwyafrif y systemau cyfieithu peirianyddol.

·    profi dwy system gyfieithu beirianyddol ar-lein, sef Google Translate a Google Translate Toolkit.

·    datblygu opsiynau ar gyfer darparu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog. Roedd yr opsiynau hyn wedi’u seilio ar gyfartaledd o 36,000 o eiriau, wedi’u cwblhau o fewn pum diwrnod gwaith gan ddefnyddio system gyfieithu beirianyddol Google Translate Toolkit gyda WordFastPro, golygu gan gyfieithydd proffesiynol a phrawfddarllen at ddibenion sicrhau ansawdd.

3.4     Ar sail ein hymchwil a chanlyniadau ein profion, rydym yn cyfrif mai cost flynyddol cynhyrchu Cofnod y Trafodion cwbl ddwyieithog fydd tua £95k.

3.5     Dangosodd ein hymchwiliadau, felly, y gallwn ddarparu Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn cwbl ddwyieithog o fewn pum diwrnod gwaith, drwy drefniant sy’n gynaliadwy yn y tymor hwy, ac am gost resymol. Rydym yn argymell bod y trefniadau ar waith o fis Ionawr 2012 ymlaen.

3.6     Cwblheir trawsgrifiad cwbl ddwyieithog o Gofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn rhwng mis Medi 2010 a mis Rhagfyr 2011 pan fydd amser a chyllidebau’n caniatáu hynny, yn bennaf yn ystod cyfnodau o doriad.

4.0    Ymgynghoriad ar y Bil (Drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog Drafft.

4.1     Lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar Fil (drafft) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 3 Awst 2011 a daeth i ben ar 14 Hydref.

4.2     Yn ystod y cyfnod hwn:

·    cysylltwyd â 587 o sefydliadau yn uniongyrchol ynglŷn â’r broses ymgynghori;

·    lansiwyd ymgyrch yn y cyfryngau i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgynghoriad a sicrhaodd sylw cadarnhaol a chywir, gan gynnwys erthyglau barn gan Rhodri Glyn Thomas yn 'Golwg' a Keith Bush yn y Western Mail;

·    daeth dros 60 o gynrychiolwyr i gyfarfodydd â rhanddeiliaid a oedd yn ceisio cynorthwyo ac annog y rhai oedd yn bresennol i gyflwyno ymatebion ysgrifenedig, llawn ac ystyrlon i’r ymgynghoriad;

·    cynhaliwyd 13 o gyfarfodydd staff i roi cyfle i staff ystyried effaith y cynllun ar ddarparu gwasanaethau a rhoi eu sylwadau ar hyn, a

·    chynhaliwyd cyfarfod rhagarweiniol â rheolwyr y grwpiau plaid i amlinellu egwyddorion y Bil a’r Cynllun.

4.3     Gofynnodd y Comisiwn am farn pobl ar y Bil a’r Cynllun. Dyma grynodeb o’r ymatebion:

·         cafwyd 59 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad cyhoeddus;

·         nid oedd dau, sef Senedd Canada a Threnau Arriva Cymru, wedi mynegi barn ar y Bil na’r Cynllun;

·         o’r 57 arall, roedd 50 yn uniaith Gymraeg a saith yn uniaith Saesneg;

·         roedd 40 wedi’u seilio ar ymateb templed a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ei gwefan; ac

·         yn gyffredinol, gwnaed sylwadau ar y Cynllun a’r Bil gyda’i gilydd, yn hytrach nag ymateb i gwestiynau penodol yr ymgynghoriad  (Atodiad A).  Roedd yr ymatebion yn Gymraeg yn cytuno â’r Cynllun a/neu’r Bil neu’n dymuno eu cryfhau. Ar y llaw arall, ac eithrio un ymateb, roedd y rhai uniaith Saesneg yn erbyn y Cynllun a’r Bil (ac yn wir yn erbyn darpariaeth ddwyieithog yn gyffredinol).

4.4     Roedd yr ymatebion a gafwyd gan y cyhoedd yn cefnogi egwyddorion y Bil drafft a’r Cynllun arfaethedig yn gyffredinol. Ar wahân i chwe ymatebwr, roedd pob ymateb naill ai’n cymeradwyo egwyddorion y pecyn neu, trwy ofyn i ddarpariaethau manwl penodol gael eu cryfhau ymhellach, yn awgrymu eu bod yn cefnogi’r egwyddorion hynny yn gryf.

4.5     Roedd y themâu a nodwyd ac a drafodwyd mewn cyfarfodydd a digwyddiadau â rhanddeiliaid yn adlewyrchu’r themâu a welwyd yn yr ymatebion ysgrifenedig a ddaeth i law.

4.6     Mynegodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ei fod yn cefnogi egwyddorion y Bil a’r Cynllun, ac ar yr un pryd gwnaed nifer o gynigion manwl ganddynt ar gyfer gwneud newidiadau penodol.

4.7     Roedd yr ymgynghoriad â staff ac ymatebion staff yn canolbwyntio ar faterion ymarferol penodol ond fe’u crynhowyd er mwyn llywio’r broses o gynllunio ar gyfer darpariaethau’r Bil a’r Cynllun a’u rhoi ar waith, a bydd hyn yn cyd-daro â’r adeg pan fydd y Cynulliad yn ystyried y ddwy ddogfen.

4.8     Caiff safbwyntiau'r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad eu crynhoi yn Atodiad B.

5.0    Diwygiadau arfaethedig i’r Bil a’r Cynllun yn sgil yr ymatebion i’r ymgynghoriad

Y Bil

5.1     Gwahoddir y Comisiwn i ystyried a ddylid gwneud y diwygiadau a ganlyn i’r Bil yn sgil yr ymatebion a gafwyd:

a.      a ydynt am osod dyletswydd i ddarparu Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn yn gwbl ddwyieithog  ar wyneb y Bil ei hun, neu yn y Cynllun yn unig;

(Trafodaeth: Anogwyd newid o’r fath yn bendant yn yr ymatebion ysgrifenedig ac yn y cyfarfodydd â rhanddeiliaid. Er y byddai’n gyson â pholisi cyfredol y Comisiwn ar gyfieithu’r Cofnod, byddai ei ymgorffori yn y Bil yn hytrach na’r Cynllun yn golygu y byddai’n llawer mwy anodd (hy byddai’n ofynnol cyflwyno gwelliant i’r Ddeddf) newid i drefniant gwahanol rywbryd yn y dyfodol, pe bai’r Comisiwn presennol neu Gomisiwn yn y dyfodol yn penderfynu hynny.  Dyma, wrth gwrs, y rheswm pam bod y rhai a ymatebodd yn dymuno gweld y ddyletswydd wedi’i hymgorffori yn y ddeddfwriaeth yn hytrach nag yn y Cynllun, a wnaed yn unol â hi, yn unig.)

b.     adolygu geiriad adran 1(2) sy’n ymwneud â defnyddio’r naill iaith swyddogol neu’r llall yn nhrafodion y Cynulliad er mwyn cyfeirio at “hawl” i wneud hynny;

(Trafodaeth: Nid yw hyn yn newid effaith y ddarpariaeth.)

c.      newid teitl y Cynllun i “Ieithoedd Swyddogol”;

(Trafodaeth: Nid yw hyn yn newid effaith y ddarpariaeth.)

ch. cynnwys darpariaeth yn y Bil ar gyfer paratoi adroddiadau blynyddol ar fonitro arferion cydymffurfio, ac i’r rhain gael eu  gosod gerbron y Cynulliad;

(Trafodaeth: Mae’r Cynllun eisoes yn cynnwys gofyniad i’r Comisiwn wneud hynny ac ni fydd cynnwys ymrwymiad yn y Bil yn rhoi baich ychwanegol arno.

d.     cynnwys gofyniad yn y Bil bod y Cynllun yn ymgorffori dull tryloyw ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch torri amodau’r Cynllun; ac

(Trafodaeth: Mae’r Cynllun eisoes yn cyfeirio at weithdrefn ar gyfer cwyno ynghylch peidio â chydymffurfio ac ni fydd cynnwys gofyniad am hynny yn y Bil yn faich ychwanegol. Mae’n bosibl y bydd angen cryfhau’r weithdrefn yn y Cynllun, fodd bynnag, er enghraifft drwy ei gwneud yn ofynnol bod dyfarniadau ynglŷn â chwynion yn cael eu cyhoeddi.)

dd.  newid y gofyniad presennol bod y Cynllun yn cael ei adolygu o leiaf unwaith bob pedair blynedd i hynny gael ei wneud o leiaf unwaith bob pum mlynedd.

(Trafodaeth: Y bwriad yw na fydd angen adolygu’r Cynllun cyn diwedd tymor y Cynulliad presennol ac mae ymestyn y tymor hwnnw i bum mlynedd yn gwneud y newid hwn yn angenrheidiol er mwyn cyflawni hyn.)

5.2     Roedd nifer o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn dadlau y dylai’r Bil a’r Cynllun osod dyletswyddau ar Aelodau’r Cynulliad o ran y ffordd y meant yn cysylltu â’r cyhoedd (ee yn ei gwneud yn ofynnol eu bod yn ymateb i ohebiaeth yn Gymraeg) ac ar y Cynulliad fel corff deddfwriaethol (ee trwy ei gwneud yn ofynnol yn ffurfiol bod asesiad yn cael ei gynnal o effaith y ddeddfwriaeth arfaethedig ar yr iaith Gymraeg).  Beth bynnag fo rhinweddau cynigion o’r fath, byddent yn sicr y tu hwnt i gwmpas y Bil cyfredol a’r Cynllun ac yn arwain at faterion cyfansoddiadol o bwys nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad presennol. Argymhellir, felly, na ddylid ymestyn y cynigion presennol i gynnwys darpariaethau o’r fath.

Y Cynllun

5.3     Gwahoddir y Comisiwn i ystyried y diwygiadau a ganlyn i’r Cynllun. Caiff rhai eu cynnig yn sgil yr ymatebion a gafwyd fel rhan o’r broses ymgynghori. Awgrymwyd newidiadau ychwanegol er mwyn adlewyrchu arferion presennol yn well ac i hwyluso dealltwriaeth:

a.      newid enw’r Cynllun i’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol (yn unol â’r diwygiad arfaethedig i’r Bil);

b.     ailddrafftio paragraffau perthnasol y Cynllun i adlewyrchu penderfyniad y Comisiwn o ran Cofnod o Drafodion y Cyfarfod Llawn;

c.      newid yr adran “Defnyddio technoleg gwybodaeth dwyieithog” yn sylweddol i adlewyrchu’n well y cynnydd hyd yma o ran rhoi argymhellion y Panel Annibynnol ar Wasanaethau Dwyieithog ar waith;

ch. gwella a chryfhau geiriad yr adran ar y cymorth sydd ar gael i staff i wella ymwybyddiaeth o’r iaith a sgiliau dwyieithog i adlewyrchu arferion presennol yn well;

d.     adolygu ac ail-eirio’r adran sy’n nodi’r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi tystiolaeth ysgrifenedig;

dd. cynnwys paragraffau sy’n egluro pam bod gohebiaeth rhwng Aelodau Cynulliad unigol a’r cyhoedd y tu hwnt i gwmpas y cynllun;

e.      adolygu geiriad y gwasanaethau i ymwelwyr (teithiau, ateb y ffôn, contractwyr sy’n ymwneud â’r cyhoedd) er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu arferion presennol;

f.       drafftio a chynnwys paragraffau esboniadol ar y cysylltiad rhwng y Bil a’r Cynllun a Mesur y Gymraeg 2011 a Chomisiynydd y Gymraeg;

ff.   ei gwneud yn fwy amlwg ein bod yn cynnig y dylai pob aelod o staff gael eu hannog i siarad rhywfaint o Gymraeg ac nad  bwriad y dyhead hwn yw effeithio ar hawliau unigol staff.

6.0    Camau pellach

6.1     Bydd Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Bil, sy’n ymgorffori Asesiad Effaith Rheoleiddiol, yn cael ei baratoi mewn ymgynghoriad â Rhodri Glyn Thomas AC ac Angela Burns AC.

6.2      Caiff y Bil (a’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd ag ef) ei gyflwyno, a’r Cynllun arfaethedig ei osod, ym mis Ionawr 2012.  Y dyddiad y disgwylir i’r Bil ddod yn gyfraith ac i’r Cynllun ddod i rym yw mis Medi 2012.


Cwestiynau’r ymgynghoriad

Rhan 1 – Y Bil Ieithoedd Swyddogol (Cymru)

Materion y croesewir sylwadau arnynt yn benodol

a) A ydych yn cytuno bod angen diweddaru’r fframwaith cyfreithiol mewn perthynas â safonau’r ddarpariaeth ddwyieithog yng ngwaith y Cynulliad Cenedlaethol?

b) Beth yw eich barn ar ddull cyffredinol y Bil, sef y dylid cynnwys datganiadau clir ynglŷn â statws y Gymraeg a’r Saesneg yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol ac yn swyddogaethau Comisiwn y Cynulliad ar wyneb Deddf Llywodraeth Cymru 2006?

c) A ydych yn cytuno y dylai’r datganiadau hyn ei gwneud yn glir fod y  Gymraeg a’r Saesneg yn ieithoedd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol ac y dylid eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal?

d) Os na, pa ddull amgen ddylid ei fabwysiadu?

e) A ydych yn cytuno y dylai manylion y modd y dylid cyflawni’r egwyddor o ddwyieithrwydd yn ymarferol gael eu cynnwys mewn Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog i’w baratoi gan Gomisiwn y Cynulliad?

f) Os na, drwy ba ffyrdd eraill y dylid diffinio’r manylion am sut y caiff dwyieithrwydd ei gyflawni yn y Cynulliad Cenedlaethol? 

g) A ydych yn cytuno y dylai Comisiwn y Cynulliad, wrth lunio a gweithredu’r Cynllun, fod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol?

h) A ddylai Comisiwn y Cynulliad fod yn atebol i unrhyw un arall, naill ai yn ogystal â bod yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol neu ar wahân i’r Cynulliad Cenedlaethol?

i) A ddylai’r bylchau rhwng cyfnodau adolygu’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog gael eu cysylltu â phob tymor Cynulliad Cenedlaethol (p’un ai yw’r tymor yn un pedair neu bum mlynedd)?

j) Os na, pa mor aml ddylid ei adolygu?

k) A oes gennych unrhyw sylwadau ar ddarpariaethau manwl y Bil drafft?


 

Rhan 2 – Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog

Materion y croesewir sylwadau arnynt yn benodol:

a) A ydych yn cytuno y dylai’r manylion ynghylch sut y bydd yr egwyddor o ddwyieithrwydd yn cael ei wireddu’n ymarferol gael eu gosod mewn cynllun gwasanaethau dwyieithog a gaiff ei baratoi gan Gomisiwn y Cynulliad a’i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol?

b) Os nad ydych yn cytuno â hyn, sut ddylai’r manylion ynghylch y modd y bydd dwyieithrwydd yn cael ei wireddu yn y Cynulliad Cenedlaethol gael eu diffinio?

c) Beth yw eich barn chi ar ddull cyffredinol y cynllun o fynd i’r afael â’r mater hwn?

d) Pa ddulliau amgen y dylid eu mabwysiadu, os o gwbl?

e) Beth yw eich barn chi am y gwasanaethau dwyieithog y byddwn yn eu darparu i’r cyhoedd, yn unol â chynigion y cynllun?

f) A ydym wedi cynnig ffyrdd priodol a digonol i’r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y sawl sydd am gyfathrebu â ni yn Gymraeg yn cael eu trin mewn modd teg?

g) Yn eich barn chi, a oes unrhyw bwyntiau ychwanegol na chafodd eu cwmpasu gan y Cynllun drafft?

h) A oes gennych unrhyw sylwadau pellach i’w gwneud ynghylch y Cynllun a sut y caiff ei weithredu?


Cefndir yr ymgynghoriad

Lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil drafft Ieithoedd Swyddogol a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog drafft yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 3 Awst 2011 a daeth i ben ar 14 Hydref. Gofynnwyd i’r cyhoedd roi eu sylwadau ar y Bil drafft a’r Cynllun drafft.

Roedd y llythyr ymgynghori ar y Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog Drafft yn cynnwys wyth cwestiwn a’r llythyr ymgynghori ar y Bil Ieithoedd Swyddogol yn cynnwys 11 cwestiwn.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Cafwyd 59 ymateb i’r ymgynghoriad.

Ymatebion nad oedd yn rhoi barn.

O’r rhain, roedd un wedi dod gan Senedd Canada yn amlinellu sut y mae dwyieithrwydd yn gweithio yno ac un gan Drenau Arriva Cymru a nodai nad oedd ganddynt faterion i’w codi nac awgrymiadau pellach i’w gwneud ynglŷn â’r ymgynghoriad hwn.

Ymatebion a oedd yn rhoi barn

O’r 57 ymateb arall, darparwyd 50 yn uniaith Gymraeg a saith yn uniaith Saesneg. Er nad oes modd gwneud tybiaethau ar sail iaith y rhai a ymatebodd, mae’n werth nodi fod pob un o’r rhai a oedd wedi ymateb yn Gymraeg o blaid y Bil a’r Cynllun, neu wedi cynnwys awgrymiadau i’w cryfhau. Ar y llaw arall, roedd y rhai a oedd wedi ymateb yn Saesneg yn gyffredinol yn eu herbyn. Yn gyffredinol, nid oedd yr ymatebion yn tueddu i ymateb i gwestiynau penodol yr ymgynghoriad, sy’n golygu bod dadansoddi’r canlyniadau neu ddod i gasgliadau ar sail yr ymgynghoriad yn fwy anodd.

Nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad fesul iaith

O’r 50 ymateb a ddarparwyd yn Gymraeg, roedd 40 ohonynt wedi’u seilio ar ymateb templed a gyhoeddwyd ar wefan Cymdeithas yr Iaith; roedd 32 ohonynt yn union yr un fath â’i gilydd ac wyth yn amrywio ychydig ar yr un thema. Mae hyn yn cyfateb i ddwy ran o dair o gyfanswm yr ymatebion felly mae angen ystyried yr holl ymatebion yng ngoleuni hyn. Anfonwyd dau o’r ymatebion gan yr un person, un ar ran Cymdeithas yr Iaith ac un fel unigolyn.

Roedd chwech o’r ymatebion uniaith Saesneg gan aelodau o’r cyhoedd.

Roedd un ymateb yn Saesneg gan sefydliad, Agored Cymru, a nododd ei fod o blaid y Bil a’r Cynllun.

Crynodeb o’r ymatebion cefnogol

Roedd mwyafrif yr ymatebion a oedd yn cefnogi’r Bil a’r Cynllun, sef 40, wedi’u seilio ar ymateb templed a gyhoeddwyd ar wefan Cymdeithas yr Iaith.

O’r 11 nad oedd wedi’u seilio ar y templed, roedd ymatebion gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg; swyddog polisi o Fwrdd yr Iaith; Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru; grŵp o swyddogion iaith Gymraeg o Dde Cymru; Athro o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd; Mentrau Iaith Cymru; Agored Cymru, (sefydliad sy’n hybu cyfleoedd dysgu gydol oes a datblygu drwy gymwysterau o ansawdd uchel a chlod); ymgynghorydd cyfathrebu a chyfieithydd annibynnol.  Cafwyd ynddynt amrywiaeth o gefnogaeth gref i’r Cynllun ac awgrymiadau o ran sut i gryfhau ei gynnwys. Mae awgrymiadau unigol penodol i’w hystyried wedi’u nodi yn Adran 5 y Papur (uchod).  Cytunodd awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri â phob cwestiwn yr ymgynghoriad. Cafwyd ymateb hefyd gan Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, a nododd ei chytundeb llwyr â’r egwyddor o ddwyieithrwydd yng ngweithrediadau’r Cynulliad.  Ni chynigiwyd sylwadau ar gynnwys y Bil Drafft na’r Cynllun Drafft, ond rhoddwyd cyngor ar dechnoleg cyfieithu awtomatig, drafftio dogfennau yn Gymraeg yn gyntaf a’r diwydiant technoleg cyfieithu.

Prif themâu’r ymatebion oedd:

·         cefnogaeth gyffredinol i osod dyletswydd i ddarparu cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion y Cyfarfod Llawn ar wyneb y Bil gan bron bob un o’r ymatebwyr;

·         yr angen am drefniadau adrodd a chraffu cadarn mewn perthynas â pherfformiad yn erbyn y Cynllun;

·         roedd rhai galwadau i’r Cynulliad arwain trwy esiampl o ran cefnogi’r Gymraeg a pholisi a darpariaeth o ran y Gymraeg;

·         gwrthwynebiadau o ran cydraddoldeb a phobl yn cael yr hawl i gyfrannu yn eu dewis iaith; ac

·         mewn cysylltiad â’r iaith a ddefnyddir yn y Cynulliad Cenedlaethol, roedd y sylwadau’n amrywio o gynyddu cryfder y targed fod gan yr holl staff rywfaint o sgiliau yn yr iaith at anelu bod yr holl staff yn ddwyieithog.

Yn ychwanegol, cafwyd awgrymiadau unigol i newid adrannau penodol o’r Bil neu’r Cynllun. Ceir rhestr o’r rhain yn Adran 5.1 a 5.3.

Crynodeb o’r ymatebion yn erbyn

Roedd y chwe ymateb yn erbyn y Cynllun a’r Bil yn sylwadau cyffredinol gan aelodau’r cyhoedd yn bennaf.  Roedd rhai sylwadau penodol ar y Cynllun neu’r Bil:

·         ar wahân i un person a roddodd gyflwyniad cyffredinol, byr, roedd pob un yn mynegi gwrthwynebiad cryf o ran y gost. Nododd un ymatebwr y pwynt bod angen nodi’r gost ar gyfer y polisi hwn a pholisïau eraill sy’n hyrwyddo’r Gymraeg;

·         yn gyffredinol, roedd pawb o’r farn nad oedd y polisi’n adlewyrchu anghenion y mwyafrif o boblogaeth Cymru a nododd rhai ymatebwyr eu bod yn teimlo y dylid gwario’r arian yn fwy doeth yn rhywle arall o ystyried yr hinsawdd economaidd bresennol;

·         nodwyd gwrthwynebiad o ran cyfle cyfartal i fwyafrif y boblogaeth nad ydynt yn siarad Cymraeg a’r canfyddiad eu bod yn cael eu hallgáu o swyddi yn y sector cyhoeddus a ddaw yn sgil y Bil /Cynllun;

·         codwyd pryderon gan ddau o’r rhai a ymatebodd am ba mor wael y cafodd yr ymgynghoriad ei hysbysebu a’r diffyg ymwybyddiaeth yn ei gylch ymhlith y cyhoedd;

·         cafwyd dau alwad am refferendwm yn ymwneud â’r mater ehangach o wariant ar ddwyieithrwydd yn y sector cyhoeddus cyfan.

 


 

Dadansoddiad o’r ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad yn ôl yr iaith a ddefnyddiwyd

Cynrychioldeb

Ni ellir tybio, o natur yr ymatebion, eu bod yn cynrychioli’r boblogaeth gyfan nac yn adlewyrchu barn y boblogaeth honno. Un eglurhad posibl yw bod rhai rhannau o’r boblogaeth yn cymryd mwy o ddiddordeb yn y mater hwn nac eraill.

O’r ymatebion a gafwyd, roedd rhai yn ymateb yn uniongyrchol i gwestiynau’r ymgynghoriad, rhai yn ymateb yn gyffredinol i’r ymgynghoriad a rhai yn ymateb i’r egwyddor o hyrwyddo / cydraddoldeb ieithoedd yn gyffredinol. O ganlyniad i’r nifer isel o  ymatebion, nid oes modd tybio y byddai’r poblogaethau perthnasol yn cytuno ar y safbwyntiau hyn.